|
||
|
|
||
|
||
|
Caffi Digi a Sesiwn Ymwybyddiaeth Sgam AM DDIM yng Nghanolfan Gymunedol Talbot y dydd Gwener hwn |
||
|
Caffi Digi am ddim yng Nghanolfan Gymunedol Talbot y dydd Gwener hwn Mae Age Connects Cymru a Heddlu De Cymru yn cynnal Caffi Digi am ddim a sesiwn gyngor ymwybyddiaeth o sgamiau yng Nghanolfan Gymunedol Talbot ddydd Gwener yma 14 Awst am 11.30-1.00pm. Bydd Jake Palmer o'r elusen Age Connects Cymru yn darparu cymorth a chefnogaeth hollol rhad ac am ddim gyda'ch ffonau symudol a'ch tabledi. Bydd Owen Hardy o Adran Troseddau Seiber Heddlu De Cymru a'ch SCCH lleol hefyd yn bresennol i roi cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch sgamiau ar-lein a sut i'w canfod. Mae croeso hefyd i bawb am baned a sgwrs yn y bore coffi yn y Talbot bob dydd Gwener rhwng 11.30 a 1.00pm. Peidiwch ag anghofio dod â'ch dyfeisiau i Gaffi Digi Talbot! | ||
Reply to this message | ||
|
|






